Pennaeth Sgiliau a Gallu
Peter sy’n arwain y gwasanaeth dysgu sgiliau digidol i feithrin sgiliau trawsnewid digidol a hyder staff mewn rolau presennol a chefnogi’r rhai sydd am symud i wasanaethau cyhoeddus digidol Cymru.
Mae’n gweithio gydag eraill i ddatblygu strategaeth gweithlu digidol a chefnogi mesurau ymarferol i greu piblinell o weithwyr proffesiynol medrus gyda’r nod o leihau bylchau sgiliau digidol, meithrin dealltwriaeth ar y cyd o drawsnewid digidol a dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr, uwchsgilio gweithwyr presennol sector cyhoeddus Cymru sy’n newydd i fyd digidol, a denu talent i rolau digidol yng Nghymru.